SL(6)158 – Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Darpariaeth Drosiannol a Darpariaeth Arbed) 2022
Cefndir a Diben
Mae’r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth arbed a darpariaeth drosiannol mewn perthynas â’r mân ddiwygiadau, y diwygiadau canlyniadol a’r diddymiadau a nodir yn Atodlen 2 i Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”).
Bwriad Llywodraeth Cymru yw y bydd y Cwricwlwm newydd i Gymru o dan Ddeddf 2021 yn cael ei gyflwyno fesul cam. Mae'r Rheoliadau'n cynnwys y ddarpariaeth arbed a’r ddarpariaeth drosiannol sy'n ofynnol i ganiatáu’r broses gyflwyno fesul cam.
Gweithdrefn
Negyddol.
Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y cawsant eu gosod gerbron y Senedd.
Materion technegol: craffu
Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.
Mae rheoliad 2(1) yn cynnwys y diffiniad o “plentyn” (“child”) trwy gyfeirio at “adran 579(1) o Ddeddf 1996”. Mae adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996 yn cynnwys diffiniad o “child” a thybir mai dyma’r “Deddf 1996” y mae’r ddarpariaeth yn cyfeirio ati. Fodd bynnag, nid yw’r Rheoliadau hyn yn cynnwys diffiniad o “Deddf 1996”.
Rhinweddau: craffu
Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Rheoliadau yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno’r Cwricwlwm newydd i Gymru fesul cam rhwng 1 Medi 2022 a 1 Medi 2026. Nodir bod hyn yn gyson â’r cynllun gweithredu a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ond, ar hyn o bryd, nid oes darpariaethau i gychwyn Deddf 2021 yn y modd hwn.
Nid yw'n glir i'r Pwyllgor pam mae'r Nodiadau Esboniadol yn nodi'r cynllun cyflwyno fesul cam heb ddarparu ar gyfer y cyflwyniad fesul cam hwn yn y Rheoliadau. Byddai’n ddefnyddiol i’r Pwyllgor gael deall y rhesymau dros y dull hwn.
Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
22 Chwefror 2022